Pentref ar gyrion tref Llanelli yn Sir Gaerfyrddin ydy Llwynhendy. Mae tua 4,500 o bobl yn byw yno. Mae’n hen bentref gyda gwreiddiau diwydiannol cadarn. Roedd y gwaith dur (sydd bellach wedi cau) ym mhentref cyfagos Bynea yn cyflogi llawer iawn o’r trigolion nes cwymp y diwydiant dur. Gall dros 25% o bobl yr ardal siarad Cymraeg.