Mae Hubberston a Hakin yn gymunedau arfordirol i’r gorllewin o Aberdaugleddau yn Sir Benfro. Mae bron i 5,000 o bobl yn byw yn y ddwy ardal gyda’i gilydd.
Mae llawer o lefydd yn ymwneud â chwaraeon a hamddena yn yr ardal hon gan gynnwys clwb cychod hwylio, cwrs golf, clwb pêl-droed, clwb rygbi, parc chwarae a pharc sglefrio.
Mae yno hefyd dair eglwys, canolfan gymunedol, swyddfa bost a sawl tafarn. Dyma hefyd gartref Caer Hubberston, magnelfa Fictoraidd oedd yn cael ei defnyddio yn y Rhyfel Byd Cynaf a’r Ail Ryfel Byd.