Etholiadau’r Senedd a dyfodol Cymunedau Cryf Cymru

Etholiadau’r Senedd a dyfodol Cymunedau Cryf Cymru

3 Meh 2021

Mae Swyddog Polisi Ymddiriedolaeth Creu Cymunedau, Matthew Brindley yn edych yn ôl ar yr ymgyrch etholiadol ar gyfer Cymunedau Cryf Cymru ac yn amlinellu sut y gall Llywodraeth a Senedd newydd Cymru helpu i ddatblygu cryfderau ac asedau pobl leol a sefydliadau cymunedol.

Cymunedau yn ymgyrchu dros newid

Yn ymgyrchoedd y pleidiau a arweiniodd at yr etholiadau y mis diwethaf, gwelwyd ffocws oedd i’w groesawu ar wella rolau a hawliau cymunedau a’u sefydliadau. Yn eu maniffestos roedd pob un o brif bleidiau gwleidyddol Cymru yn siarad am rymuso cymunedau ac mewn rhai achosion yn amlinellu deddfwriaeth benodol a chyllid ar gyfer gwneud hynny.  

Yn bwysicach fyth, roedd nifer o'r dadleuon hyn yn digwydd rhwng pobl leol a gwleidyddion ledled Cymru. Er enghraifft, ysgrifennodd grwpiau cymunedol yng Nghaerau (ger Maesteg) a Rhisga at eu hymgeiswyr lleol yn galw arnynt i gydnabod a chefnogi’r rôl allweddol y mae grwpiau fel eu rhai nhw yn ei chwarae o ran creu cymunedau iachach, hapusach a mwy cydnerth.

Hefyd yn Ne Cymru, ffurfiodd  Action in Caerau & Ely (ACE) yng Nghaerdydd , a’r grŵp lleol Together for Trowbridge and St Mellons bartneriaeth gyda Dinasyddion Cymru er mwyn cyfranogi mewn sesiynau atebolrwydd gydag arweinwyr y pleidiau gan sicrhau ymrwymiadau pwysig ar gyfer dyfodol gweithredu cymunedol.         

Yn y cyfamser yng Ngogledd Cymru trefnodd Together for Colwyn Bay hystingau poblogaidd gydag ymgeiswyr yr etholaeth, ac i lawr y ffordd yn Wrecsam, cyfarfu We Are Plas Madoc, mewn partneriaeth â Together Creating Communities (TCC), ag ymgeiswyr seneddol yn eu hardal gan sicrhau ymrwymiadau ganddynt.

Beth addawodd y pleidiau

Roedd y rhan fwyaf o’r pleidiau gwleidyddol wedi cyflwyno ymrwymiadau clir yn eu maniffestos ac yn eu sgyrsiau gyda grwpiau cymunedol er mwyn cefnogi gwella gweithredu cymunedol yng Nghymru.

Roedd y rhain yn cynnwys adduned gan Blaid Cymru i gyflwyno “Deddf Hawliau Cymunedol” a “Chronfa Cyfoeth Cymunedol” er mwyn “grymuso cymunedau” i brynu asedau lleol gyda chymorth “gwasanaeth cenedlaethol newydd”. Yn yr un modd roedd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gyflwyno “Deddf Grymuso Cymunedau” a’r olaf yn addunedu i “rymuso cymunedau i sefydlu cynlluniau cymdogaethol” a chyflwyno “Cronfa Perchnogaeth Gymunedol” a “Hawl i Fidio” er mwyn helpu cymunedau i gaffael asedau lleol.

Roedd maniffesto Llafur Cymru yn llai penodol, ond roedd yn ymrwymo i “rymuso cymunedau i gael mwy o ran mewn adfywiad lleol” ac i flaenoriaethu “cydweithredu” gyda grwpiau cymunedol. Hefyd mae’n werth nodi bod Mark Drakeford yn ei sesiynau atebolrwydd gyda ACE a Dinasyddion Cymru, wedi mynegi ei gefnogaeth i weithio ar sail cryfderau cymunedau, nid eu gwendidau, a’u bod yn cael eu harwain gan egwyddorion cyd-gynhyrchu. 

Hefyd gwnaethpwyd addewidion yn ein hystingau ar-lein cenedlaethol ar Gymunedau Cryf Cymru, a gofynnwyd i bob ymgeisydd beth fyddai eu plaid yn ei wneud er mwyn darparu amgylchedd gefnogol ar gyfer gweithredu cymunedol mewn ymateb i Covid a thu hwnt:

“O ran y ffordd ymlaen mae angen i ni greu Cymru fwy teg a gwyrdd er mwyn taclo’r anghydraddoldeb a amlygwyd mor drawiadol gan y pandemig, ac mae’n rhaid i hynny ddechrau yn y cymunedau, ac mae angen i ni ddefnyddio strategaethau ariannu a chynlluniau gweithredu er mwyn gwneud i hynny ddigwydd ar lefel genedlaethol a lleol” (Jane Hutt AS, Llafur Cymru a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol erbyn hyn)

“Ni ellir gorfodi prosiectau cymunedol, maent yn digwydd o ganlyniad i ymrwymiad ac angerdd pobl leol...y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw cynnig strwythur cenedlaethol i atgyfnerthu’r rhwydweithiau yma, darparu arian hirdymor a dangos iddynt y parch maent yn ei haeddu a’r cyfle i ffynnu” (Delyth Jewell AS, Plaid Cymru)

“Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn datblygu strategaeth gymunedol hirdymor a throsfwaol er mwyn helpu i rymuso pobl leol a sefydlu Datblygu Cymunedol Seiliedig ar Asedau fel egwyddor allweddol mewn datblygu cymunedau” (Mark Isherwood AS, Ceidwadwyr Cymreig)

Roedd yn galonogol hefyd bod y tair plaid yn ymrwymo i gyfarfod â Mudiad Cymunedau Cymru, sydd newydd gael ei sefydlu, er mwyn trafod dyfodol gweithredu cymunedol yng Nghymru.

Tri cham i wella gweithredu cymunedol

Wrth i Senedd a Llywodraeth Cymru newydd setlo, rydym yn credu bod yna gyfle mawr i'r Llywodraeth ac aelodau i weithio’n drawsbleidiol er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau a’r ymrwymiadau cyffredin a fynegwyd yn ystod yr etholiad. 

Fel man cychwyn rydym wedi nodi tri cham allweddol y dylent eu cymryd tuag at wella rolau a hawliau cymunedau a’u sefydliadau:

  • Ymgorffori gweithredu cymunedol a chydweithredu traws sector i’r broses o adfer ar ôl Covid a thu hwnt
  • Gwella hawliau cymunedau i berchnogi a chynnal adeiladau a thir cyhoeddus a chyd gynhyrchu gwasanaethau.
  • Gwella mynediad i arian hyblyg hirdymor sydd yn galluogi cymunedau a’u sefydliadau i wneud y pethau sydd yn bwysig iddyn nhw

Mae ein hadroddiad Creu Cymunedau Cymreig Cryfach a’r Maniffesto yn darparu argymhellion manwl ynghylch sut y gellid cyflawni’r camau yma. Maent wedi eu hysbysu gan dros 20 o ddigwyddiadau yr ydym wedi eu cynnal ym mhob cwr o Gymru, oedd yn cynnwys dros 250 o bobl o grwpiau cymunedol. I lawer, dyna oedd y tro cyntaf iddynt drafod polisi, ac mae eu profiadau a’u syniadau wedi siapio’n sylfaenol y trywydd yma ar gyfer newid.

Nawr mae’n amser i Senedd a Llywodraeth newydd Cymru helpu i wireddu cryfderau ac uchelgeisiau ein cymunedau.

Tags Polisi
Share blog
Y newyddion diweddaraf
Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau 2021©