Gweithredu Cymunedol er Dyfodol Mwy Gwyrdd

Gweithredu Cymunedol er Dyfodol Mwy Gwyrdd

21 Mai 2021

Wrth inni ddechrau’r “degawd tyngedfennol” i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, mae Grant Peisley o Ynni Cymunedol Cymru, Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) ac YnNi Teg yn egluro pam bod angen i Lywodraeth newydd Cymru roi blaenoriaeth i gefnogi prosiectau ynni cymunedol er mwyn sicrhau dyfodol cryfach, mwy gwyrdd, tecach.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r etholiad. Mae’r chweched Senedd ar waith. Dywed y Prif Weinidog sy’n dychwelyd, Mark Drakeford y bydd yn radical ac uchelgeisiol. Mae mentrau cymunedol ym mhob cwr o’r wlad yn barod i gyflawni ar yr addewid hon.

Yn Ynni Cymunedol Cymru rydym wedi bod yn hyrwyddo prosiectau radical ac uchelgeisiol cymunedol dros y degawd diwethaf. Mae gennym gynlluniau i wneud llawer mwy yn y degawd nesaf. Cyn yr etholiadau fe wnaethom gyflwyno ein galwadau ar y chweched Senedd mewn maniffesto a gyd-gynhyrchwyd. Mae gennym strategaeth drefniadol newydd ar waith i weithredu galwadau’r maniffesto. Rydyn ni’n barod i fynd!

Mae Ynni Cymunedol Cymru yn sefydliad aelodaeth sy’n helpu grwpiau cymunedol sy’n gweithio ar brosiectau ynni ar draws Cymru gan roi llais iddynt.  Ein nod yw cefnogi a chyflymu’r trawsnewid i system ynni gymunedol, deg, sydd ag allyriadau sero-net. System ynni y mae gan bobl le canolog ynddi.

Bu cymunedau ym mhob cwr o Gymru yn cyflwyno prosiectau ynni anhygoel. Yng Nghymru y mae’r prosiect fferm wynt cymunedol mwyaf, y to solar cymunedol mwyaf, y system hydro cymunedol fwyaf i’r de o’r Alban, y safle cyntaf yn y Deyrnas Unedig sy’n caniatáu i bobl leol elwa o drydan a gynhyrchir yn lleol yn wir, mae’n rhestr ddiddiwedd.

Mae’r prosiectau hyn yn cyflwyno manteision sy’n cyflawni’r weledigaeth y tu ôl i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol arweiniol. Mae ynni cymunedol yn darparu manteision cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a ieithyddol a diwylliannol. Yn wir, gwyddom fod ynni cymunedol yn rhoi 12-13 gwaith yn fwy o fuddion cymdeithasol a chymunedol na systemau masnachol cyfatebol. Yn 2019, cynhyrchodd y sector dros £6.7 miliwn mewn budd economaidd lleol i gymunedau lleol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.  Mae hyn oll yn pwyntio at y rôl allweddol y gall gweithredu cymunedol ei chwarae yn ystod y chweched Senedd i greu dyfodol tecach a mwy gwyrdd.

Yn gynharach eleni fe ddysgom, pe câi’r sector ynni cymunedol amgylchedd bolisi cefnogol, y gallai ehangu hyd at 20 gwaith yn fwy erbyn 2030, gan greu hyd at 8,720 o swyddi, a rhoi hwb o oddeutu £1.8bn i economïau lleol ar draws y Deyrnas Unedig. Byddai hyn yn arbed 1.8 o dunelli o CO2e ac yn tynnu £150m oddi ar filiau defnyddwyr.

Mae’r holl weithredu hwn yn digwydd yng nghyd-destun argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae’r Comisiwn Newid Hinsawdd wedi dweud wrth y Senedd mai’r 2020au yw’r degawd tyngedfennol. Cyhoeddodd y Senedd ddiwethaf gynllun ymgysylltu a eglurai ei “dull o gydweithio a chyfranogi drwy gydol 2020 a 2021, o ran sut yr ydym yn gweld pob corff cyhoeddus, busnes a dinesydd yng Nghymru yn gallu chwarae eu rhan wrth benderfynu sut rydyn ni’n cyrraedd nodau hinsawdd mwy uchelgeisiol”. Mae cymunedau ledled Cymru yn aros i gymryd rhan ac mae ein maniffestos yn datgan bod angen inni wneud y gorau o’r “degawd tyngedfennol” hwn.

Mae Maniffesto Ynni Cymunedol Cymru yn asio’n berffaith â dogfen Cymunedau Cryf yng Nghymru yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a llythyr agored Co-Pro Wales i'r llywodraeth. Fel rydyn ni wedi dod i ddeall wrth ddatblygu Mudiad Cymunedol Cymru, rydyn ni oll yn gwthio i’r un cyfeiriad. Nawr, mae arnom angen i’r Senedd ymuno â ni.

Mae ein ceisiadau’n gymharol syml:

Gweithiwch gyda ni drwy ddarparu mwy o fuddsoddiad i gyflawni ein potensial.

Cafodd YnNi Teg gyllid Economi Sylfaenol gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni datblygu ynni cymunedol proffesiynol. Cyd-gefnogaeth gan un sefydliad ynni cymunedol i rai eraill. Gyda’r help hwn, mae YnNi Newydd yn awr yn datblygu’r fferm solar gymunedol fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Ysgrifennodd Elin Hywel yn ddiweddar dros BCT am bwysigrwydd perchnogaeth gymunedol a'r economi sylfaenol ac mae BCT ac Ynni Cymunedol Cymru yn gofyn am ragor o gyllid her o’r math hwn.

Gweithiwch gyda ni drwy ddarparu mynediad i dir ac adeiladau.

Mae BCT wedi enwi diffyg parch fel un o’r prif rwystrau rhag gwell cydweithrediad a chyd-ddealltwriaeth. Mae arnom angen i gyrff cyhoeddus gydnabod ein harbenigedd. Heb y parch a’r gydnabyddiaeth hon, mae sefydliadau ynni cymunedol wedi ei chael yn anodd creu partneriaethau â’r sector cyhoeddus. Yn aml, mae hyn wedi arwain at golli prosiectau a’r cydfuddiannau y byddent yn esgor arnynt. Mae esiamplau da i’w cael, megis Cynllun Menter ac Ynni Cymunedol Abertawe (SCEES) a gwaith Egni yng Nghasnewydd.

Mae sefydlu prosiectau ynni ar adeiladau cyhoeddus a chymorth er mwyn i gymunedau fod yn berchen ar y seilwaith hwn yn cynnig cryn botensial. Byddai Deddf Grymuso Cymunedau, ynghyd â chanllawiau arferion da ar gyfer mwy o gydweithredu, yn ddatblygiad i’w groesawu. Byddai’n llawer rhwyddach gwireddu’r prosiectau hyn pe byddai sector cyhoeddus Cymru yn ymrwymo i brynu trydan gan brosiectau cymunedol.

Gweithiwch gyda ni ar y ffordd at sero-net.

Mae ein cymunedau eisoes yn teimlo effeithiau newid hinsawdd. Mae Cynulliadau Hinsawdd i Ddinasyddion yn cael eu treialu fel ffordd o roi lle i gymunedau wrth wraidd y trawsnewid. Bydd Gwyrddni yng Ngwynedd, gyda Chyllid Gweithredu ar Newid Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, yn cynnal 20 Cynulliad Hinsawdd Cymunedol yn y ddwy flynedd nesaf i helpu pobl i godi eu lleisiau a’u grymuso i weithredu drwy gyd-gynhyrchu Maniffestos. Bydd y digwyddiadau hyn a gaiff eu dyblygu ar draws Cymru yn ein helpu i gyrraedd y targedau sero-net heriol.

Nid oes dim amheuaeth ein bod oll yn gwthio i’r un cyfeiriad. Nawr, mae angen inni weithio gyda’n gilydd ar draws y sector cymunedol a’r sector cyhoeddus i greu dyfodol mwy gwyrdd, sy’n deg a chyfiawn. Mae sefydliadau cymunedol ar draws y wlad yn gweithio ar hyn nawr. Rydym yn cyflawni prosiectau “radical” ac “uchelgeisiol” ac rydym yn barod i Lywodraeth newydd Cymru ymuno â ni, i gynyddu ein gwaith, a chadw’r manteision yn lleol. Bydd y chweched Senedd yn mynd â ni hanner ffordd drwy’r “degawd tyngedfennol”. Nid oes dim mwy o amser i aros. Gadewch inni wneud hyn gyda’n gilydd!

Tags Barn
Share blog
Y newyddion diweddaraf
Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau 2021©