Cymunedau ar ôl Covid: Adroddiad Kruger

Cymunedau ar ôl Covid: Adroddiad Kruger

30 Hyd 2020

Mae Chris Johnes, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, yn trafod adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU ar annog a chefnogi gweithgarwch lleol yn y gymuned ar ôl Covid.

Mae llawer o’r sôn am yr ymatebion cymdeithasol i Covid-19 wedi bod am weithredoedd cymunedau a’r gwaith enfawr mae pobl leol yn ei wneud i gefnogi eu cymdogion ym mhob rhan o’r DU.

Amcangyfrifir (gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol) bod 4000 o ‘grwpiau cyd-gymorth’ wedi cael eu sefydlu’n gyflym mewn cymunedau lleol yn ystod y cyfyngiadau symud, ac yn rhan o don gyffredinol o gefnogaeth leol yn ogystal â gwaith elusennau, grwpiau cymunedol, sefydliadau crefyddol a busnesau sy’n bodoli’n barod.

Ac yn sicr yma yng Nghymru, fe gyfrannodd cyllidwyr y Llywodraeth ac eraill – fel y Loteri a’r sefydliadau annibynnol – hefyd gyda chwistrelliad nas gwelwyd o’r blaen o arian hyblyg i gefnogi mentrau cymunedol.

Efallai fod yr holl weithredu cymunedol wedi bod yn fwy, yn fwy amlwg ac wedi’i gefnogi’n fwy na’r hyn a oedd yn digwydd cyn i’r feirws ddod, ond nid oedd hyn yn rhywbeth newydd iawn.

Cyn y feirws, roedd cannoedd (miloedd yn cynnwys mudiadau ffydd a chlybiau chwaraeon) o sefydliadau a oedd yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd ar y cyd ledled Cymru ac, wrth gwrs, llawer mwy ar draws y DU yn gyffredinol.

Ond ychydig iawn o ystyriaeth sydd wedi'i rhoi ar lefel polisi i gefnogi gweithredu cymunedol yn fwy cyfannol ar lefel y DU neu lefel Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mae eisoes yn eu cynnig.

Efallai fod hynny’n dechrau newid yn sgil y cyfyngiadau symud cyntaf.

"Levelling Up Our Communities"

Ym mis Mehefin, comisiynodd Llywodraeth y DU Danny Kruger, AS Ceidwadol a gafodd ei ethol yn ddiweddar, i gynhyrchu adroddiad ar rôl cymunedau yn ystod y cyfnod adfer yn sgil Covid. Cafodd hwn ei gyhoeddi ym mis Medi fel Levelling up our communities: proposals for a new social covenant. Mae’n ddiddorol mai dyma’r ail adroddiad pwysig ar gymunedau o safbwynt y dde-canol a gyhoeddwyd y mis diwethaf ar ôl yr adroddiad Onward ar State of our Social Fabric.

 Ac ystyried yr hinsawdd wleidyddol bresennol, mae’n debygol y bydd hi’n anodd i’r adroddiad gael sylw yng Nghymru (neu yn wir yn yr Alban) ond mae rhesymau dros ystyried yr adroddiad yn ôl ei haeddiant. Un rheswm amlwg yw cefndir yr awdur; treuliodd Danny Kruger saith mlynedd yn gweithio gydag elusennau ieuenctid yn Llundain. Er bod hyn yn dod â phersbectif penodol nad yw’n berthnasol bob amser i’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru (neu yn wir i leoedd llai yn Lloegr), mae ganddo ymrwymiad a dealltwriaeth gref o lawer o’r byd mae’n ei ddisgrifio.

Mae’r adroddiad ei hun yn gwneud dau beth diddorol a allai danseilio’r siawns iddo gael ei dderbyn yn gyflym gan y Llywodraeth bresennol, ond sydd yn ei wneud yn fwy trylwyr a defnyddiol yn y tymor hir.

Yn gyntaf, mae’n amlwg ei fod wedi’i seilio ar ymgysylltiad sylweddol â chymdeithas sifil Lloegr, sy’n golygu bod amrywiaeth o safbwyntiau gwybodus wedi cyfrannu at yr adroddiad. Ac yn ail, er bod ei gylch gorchwyl yn gyfuniad i raddau helaeth o bersbectif Llundeinig ar y trydydd sector a dealltwriaeth gyfyngedig o fudiadau cymunedol, dim ond yn rhannol y mae wedi’u dilyn wrth gynhyrchu adroddiad sy’n ceisio mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i hyrwyddo mentrau cymunedol.

Materion yng Nghymru

A’r materion hynny yw’r rhai y gallwn eu cydnabod yn hawdd yng Nghymru fel rhai hanfodol, nid cymaint o ran y broses adfer – gallai hynny fod yn bell i ffwrdd – ond o ran beth yw’r gyfres nesaf o heriau. Mae Kruger yn nodi diweithdra torfol, y risg o dlodi dwfn, problemau iechyd meddwl difrifol ac ynysu.

Mae’n hynod ddi-flewyn-ar-dafod am effeithiau anghydraddoldebau gofodol a chaledi, a byddai llawer o’r rhain yn cael eu priodoli i Lywodraeth Glymblaid 2010-15, er bod Llywodraethau o bob lliw, fel y dywed yn gywir, wedi cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Yng Nghymru, mae canoli gwasanaethau cyhoeddus fel ymateb i gyni wedi cyfrannu hefyd at yr anghydraddoldebau hyn, ac yn aml nid yw’n cael ei gydnabod fel pryder dilys gan lywodraeth leol na Llywodraeth ganolog.

Fel y dywed Kruger: "O dan gyni, er bod y prif wasanaethau cyhoeddus yn cael eu diogelu, gwnaed toriadau mawr i wasanaethau awdurdodau lleol a seilwaith cymdeithasol. Dyma’r sefydliadau sy’n lleihau’r galw am wasanaethau cyhoeddus drud, ond sydd ddim yn sicrhau canlyniadau mesuradwy ar unwaith ac sydd ddim, beth bynnag, yn rhwymedigaethau statudol ar gynghorau...a gwelodd llawer o gymunedau ddirywiad trist yn y cyfleusterau a’r gwasanaethau a fu’n gymorth i’w dal at ei gilydd.

"Yn sgil y gostyngiadau hyn, parhau wnaeth y golled a oedd wedi effeithio ar gymunedau ers ymhell cyn 2010. Dros y genhedlaeth ddiwethaf, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dod yn fwy amhersonol a biwrocrataidd, o ganlyniad i dargedau a lled-farchnadoedd a oedd wedi erydu eu cysylltiadau ag ardaloedd lleol."

Ac mae’n uchelgeisiol ynghylch beth ddylai ddod nesaf:

"Athrawiaethau cymdeithasol ac economaidd oedd yn rheoli’r cyfnod a ddaeth i ben, ac mae hyn wedi achosi i ni fod y wlad fwyaf anghyfartal ar lefel ranbarthol yn y byd datblygedig, gydag amrywiaeth o heriau cymdeithasol cronig. Rhaid i’r cyfnod newydd yn awr fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy roi cymunedau wrth galon y broses o lunio polisïau.

"Mae profiad yr argyfwng diweddar – parodrwydd pobl leol i gamu ymlaen a chydweithio, yr hyblygrwydd a ddangosir gan wasanaethau cyhoeddus ac ymrwymiad cymdeithasol busnesau – yn dangos yr hyn sy’n bosib. Ychwanegwch ddeinameg newydd anhygoel data ac arloesedd digidol, ac mae patrwm cwbl newydd yn bosib lle mae pŵer cymunedol yn disodli goruchafiaeth biwrocratiaethau sector cyhoeddus a phreifat pell."

Mae Kruger yn cynnig pedair egwyddor allweddol i fod yn sail i’w ddull gweithredu, a dylai hyn, mewn theori, fod o gryn ddiddordeb yng Nghymru ac ystyried eu bod yn cyd-fynd â rhannau mawr o bolisi cyhoeddus sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r egwyddorion hyn yn canolbwyntio ar wreiddio diben cymdeithasol ac amgylcheddol mewn polisi cyhoeddus a gweithgarwch busnes; sicrhau bod pobl leol yn cael cyfrannu at wneud penderfyniadau; mabwysiadu dull seiliedig ar gryfder o weithio gyda phobl a chymunedau; a datblygu seilwaith cymdeithasol.  

Cynigion Polisi

Mae’r cynigion polisi sy’n deillio o’r adroddiad yn cynnwys amrywiaeth o syniadau a fyddai’n helpu gwaith yn y gymuned i ffynnu. Mae’r rhain yn cynnwys gwneud arferion caffael yn fwy addas ar gyfer darparu gwerth cymdeithasol (wedi clywed hyn o’r blaen?), Deddf Ynni Cymunedol, llwybrau gwirfoddoli mwy strwythuredig ac ystod o ddulliau i wella gwaith seiliedig ar leoedd, gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith cymdeithasol a chronfeydd hyblyg newydd ar gyfer gwaith tymor hir dan arweiniad y gymuned.

Yn ddiddorol, mae’n blaenoriaethu casglu a dosbarthu data gwell am werth a chyfraniad mudiadau cymdeithas sifil i’r economi (er bod siawns y bydd rhai o’r cynigion, yn y dwylo anghywir, yn creu mwy o fiwrocratiaeth i fudiadau eithaf bach hyd yn oed). Mae Kruger yn cyfeirio at safbwyntiau Andy Haldane fod gwerth economaidd y sector yn cael ei danbrisio’n sylweddol ac y gallai fod yn werth hyd at £200 biliwn y flwyddyn yn y DU. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol o ran sut y gwelir cyfraniad ehangach y sector i les y cyhoedd.

Nid oes modd i adroddiad Kruger roi sylw i anferthedd y materion sydd y tu ôl i’r heriau enfawr sy’n wynebu ein cymunedau, yn enwedig ein cymunedau tlotach, ond mae’n cynnig nifer o syniadau ysgogol ynghylch sut gellir annog a chefnogi gweithgarwch cymunedol sy’n dod â manteision lleol i’r ardaloedd hynny. Ni fydd yr un Llywodraeth yn ei mabwysiadu yn ei gyfanrwydd ond mae’n werth ei astudio’n ofalus yn hytrach na’i ddiystyru oherwydd ei darddiad.

Share blog
Y newyddion diweddaraf
Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau 2021©