Loteri Fawr Cymru yn Ymweld â Buddsoddi'n Lleol Caerau

Loteri Fawr Cymru yn Ymweld â Buddsoddi'n Lleol Caerau

16 Mai 2018

Daeth y tîm o Loteri Fawr Cymru i ymweld â phrosiectau Buddsoddi’n Lleol yng Nghaerau yn ddiweddar, gan dreulio’r diwrnod yn teithio o amgylch prosiectau cymunedol niferus yr ardal, ac yn cwrdd â phobl Caerau a mwynhau eu lletygarwch anhygoel.

Aeth y tîm ar daith wib i ymweld â rhai o brosiectau gwych y pentref, yn cynnwys: Capel Dyffryn, Undeb Credyd Caerau, Eglwys Sant Cynfelyn, Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau, trac BMX Llynfi, Prosiect Cymunedol Noddfa, Men’s Shed Caerau, Gardd Farchnad Caerau, Clwb Bocsio Caerau Dragons a Chlwb Rygbi Nantyffyllon

Phil Jones yw Cadeirydd Buddsoddi’n Lleol Caerau, a dyma a ddywedodd am y profiad:

“Roedd y diwrnod cyfan yn wych. Daeth y ‘tîm’ cyfan at ei gilydd i groesawu ein hymwelwyr (Syr Adrian Webb, John Rose a Catrin Jones o Loteri Fawr Cymru, yn ogystal â Graham Benfield o BCT) a rhoi trosolwg iddynt o’r holl gynnydd sydd wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr drwy Buddsoddi’n Lleol Caerau.  Roedd yr awyrgylch yn arbennig, yn ddifyr ac yn gyfeillgar drwy gydol y dydd.

“Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni a byddaf yn parhau i deimlo felly. Ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n arbennig o falch o un foment, a oedd yn crynhoi yn union beth mae Buddsoddi’n Lleol yn ei olygu.  Siaradodd Shirley o’r ‘Grŵp Cyfeillgarwch’ yng Nghapel Dyffryn yn huawdl am sut yr oedd y ‘cyfeillion’ wedi ei helpu hi a’i gŵr Ken drwy gyfnodau anodd, ac yntau’n dioddef o ddementia difrifol.  Cyn yr ymweliad hwn, dim ond wythnos oedd wedi pasio ers i Shirley golli Ken i’w salwch, ond roedd hi wir eisiau bod yn rhan o’r digwyddiad.

“O’r sgyrsiau a gefais ar y diwrnod gyda’n hymwelwyr a’r adborth a gawsom ar ôl y diwrnod, mae’n amlwg bod ein hymwelwyr wedi cael diwrnod gwych a difyr dros ben yn ein pentref ni, Caerau.  Mae’r ymweliad  - sy’n tynnu sylw at yr holl brosiectau presennol sy’n datblygu a’r mentrau newydd fydd yn cael eu creu yn yr ardal - yn sicr yn dangos y bydd rhwydweithio, cynllunio, darparu a gweithio gyda’n gilydd i wella ein pentref a chreu cyfleoedd yn ein helpu ni i gyd yma yng Nghaerau i gael ansawdd bywyd gwell”.

Tags Caerau
Share blog
Y newyddion diweddaraf
Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau 2018©
Mae’r Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau Cyf yn gwmni elusennol cyfyngedig drwy warent. Rhif cwmni: 8916805. Rhif elusen: 1164509. A gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru. Ymddiriedolaeth Buddsoddi Lleol rhif elusen: 1164509-1.