Mae Vicki Browning o Gefn Golau Gyda’n Gilydd – y Grŵp Buddsoddi Lleol yng Nghefn Golau, Tredegar – yn dweud wrthym am y datblygiadau diweddaraf ynglŷn â’r prosiect yn ei hardal hi.
Rydym ni wedi bod yn gweithio fel grŵp am dros flwyddyn, yn cynnal digwyddiadau a siarad â’r gymuned leol ynglŷn â sut yr hoffen nhw wario’r £1 miliwn gan Buddsoddi Lleol.
Yn ein CCB ym mis Tachwedd, gwnaethom benderfynu bod gennym ddigon o adborth o’r gymuned i ddechrau ar ein cynllun gweithredu – cymryd themâu a ddywedodd y gymdeithas y bydden nhw’n hoffi gweithio arnyn nhw, a dod o hyd i syniadau ynglŷn â phrosiectau posibl. Rydym ni’n gyffrous iawn i fod yn dechrau ar ein gwaith cynllunio'r mis hwn.
Hyd yma, mae rhai themâu cryf iawn yn dod i’r amlwg. Rydym ni’n dymuno datblygu’r tŷ cymunedol a gweld mwy yn digwydd yno. Rydym ni’n anelu at wella’r cyfleusterau TG yno er mwyn i breswylwyr gael mynediad atyn nhw. Yn ogystal, bydd asiantaethau ar gael yn rheolaidd i helpu gyda chyflogaeth a sgiliau. Rydym ni hefyd wedi trafod y posibilrwydd o gynnal clybiau gwaith cartref yno.
Hoffem ni wella’r maes chwaraeon sydd gennym ni drws nesaf i’n maes chwarae, fel y gall timau ieuenctid redeg rhaglenni yn ddiogel yno, a darparu amrediad o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal. Byddwn yn gweithio gyda’r bobl ifanc yn ogystal ag asiantaethau perthnasol, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn addas i’r diben.
Yn ogystal, rydym ni wedi trefnu ymweliad gan dîm gwaith ieuenctid symudol rhyfeddol yn Ne Cymru, a fydd gyda lwc yn rhoi rhai syniadau rhyfeddol ac ysbrydoliaeth inni.
Yn olaf, rydym ni’n cynllunio i redeg cynllun cludiant cyhoeddus, a byddwn yn cael llawer mwy o sgyrsiau gyda phobl leol ynglŷn â’r hyn y maen nhw ei angen o’r gwasanaeth hwn.
Dechrau ein cynlluniau ar gyfer dyfodol Cefn Golau yn unig yw hwn. Unwaith y byddwn wedi llunio’r syniadau yn llawn ynglŷn â’r prosiectau, byddwn yn eu cyflwyno i’r bobl leol – a’r gymuned a fydd yn cael y gair olaf ynghylch a ydyn nhw eisiau’r prosiectau fynd yn eu blaenau ai peidio.