Adeiladu Cymunedau Trefol Sydd Wedi Cael eu Grymuso yng Nghymru

Adeiladu Cymunedau Trefol Sydd Wedi Cael eu Grymuso yng Nghymru

12 Rhag 2017

Gan Rebekah Menzies, Swyddog Polisi a Datblygu, Ymddiriedolaeth Carnegie y DU

Mae newid yn digwydd yn ein gwasanaethau cyhoeddus.  Nodweddir y newid hwn drwy gydnabod na all dulliau traddodiadol ‘o’r brig i lawr’ ddatrys mwyach y problemau cymdeithasol cymhleth yr ydym ni’n eu hwynebu fel cymdeithas.  Yn lle hynny, mae’r wladwriaeth angen cymryd rhan mwy hyrwyddol a galluogol sy’n grymuso unigolion a chymunedau i gael mwy o reolaeth dros eu llesiant personol a’n llesiant torfol fel cymdeithas.

Mae Ymddiriedolaeth Carnegie y DU wedi bod yn archwilio’r newid hwn drwy ein gwaith ar y Wladwriaeth Alluogi ers 2012.   Rydym ni wedi gweithio gydag elusennau, llywodraeth leol a llywodraethau datganoledig drwy’r DU i ddeall y newid hwn yn well, a nodi offer polisi i annog grymuso’r unigolyn a’r gymuned.

Front%20cover%20-%20English.jpegRoedd grymuso yn thema allweddol a ymddangosodd o gyfres o drafodaethau a gafodd eu trefnu yng Nghymru yn gynharach eleni, mewn partneriaeth â’r CGGC.  Fel rhan o’n gwaith ar ‘Drefi Trawsnewid’, daethom â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd mewn dwy dref yng NghymruMerthyr Tudful a Chyffordd Llandudno – er mwyn trafod yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer trefi yng Nghymru.  Mae ein hadroddiad newydd yn amlinellu’r themâu allweddol a ymddangosodd o’n trafodaethau, ac mae’n darparu argymhellion ar gyfer llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, y sectorau busnes a’r sectorau gwirfoddol ac unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn llesiant eu trefi.

Bu’r cyfranogwyr yn y ddwy drafodaeth yn canolbwyntio ar yr angen i gymunedau gael swyddogaeth wirioneddol ac ystyrlon yn natblygiad a llywodraethiant eu trefi dros yr hirdymor.  Er bod enghreifftiau o lwyddiant wedi cael eu rhannu, eithriad yw hyn i raddau helaeth, ac nid y peth arferol.  Roedd llawer o drafodaeth yn galarnadu ynglŷn â modelau ymgysylltu toredig – lle mae ymgynghori â chymunedau ynglŷn â phenderfyniadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud, a’r newidiadau a ‘wnaed i gymunedau’, yn hytrach na chyda nhw ac ar eu cyfer nhw.  A yw hyn yn swnio’n gyfarwydd?

Nododd ein trafodaethau y dylai ymgysylltiad cymunedol ddigwydd mewn ffordd wahanol ar draws amrywiol leoedd yng Nghymru, gan adlewyrchu’r amgylchiadau unigol a dynodyddion unigryw y lle.  Mae’r iaith sy’n cael ei defnyddio ar gyfer ymgysylltu hefyd yn bwysig.  Mae dod at ymgysylltu o bersbectif datrys problem yn niweidio naratifau lleol, ac nid yw’n gwneud dim ond gwaethygu’r rhwystrau sy’n bodoli i ymgysylltu.  Yn lle hynny, mae angen i ddulliau ymgysylltu ganolbwyntio ar asedau, cryfderau a nodweddion cadarnhaol cymuned er mwyn bod yn llwyddiannus.

Nododd y cyfranogwyr ei bod yn amser i symud y tu hwnt i ymgysylltu â chymunedau yn unig, at fodelau o berchnogaeth gan y gymuned, ac yn y pen draw, at rymusiad cymunedol.  Mae swyddogaeth yma i lywodraeth leol yng Nghymru gefnogi pobl i gael swyddogaeth ystyrlon a grymus yn eu cymuned.  Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, datblygu sgiliau busnes a rheoli er mwyn rhedeg asedau sy’n eiddo i’r gymuned.

Mae’r agenda grymuso cymunedau yn gryf yng Nghymru.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni y bydd rhaglenni newydd sy’n dilyn y cyfnod dod â’r cynllun Cymunedau’n Gyntaf i ben yn canolbwyntio ar rymuso er mwyn adeiladu fwy o wydnwch cymunedol. Fel y myfyriodd Chris Johnes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn ddiweddar mewn blog, “mae’r angen a’r potensial ar gyfer cymunedau, sy’n cael eu harwain gan sefydliadau a busnesau lleol i ymgymryd â mwy o swyddogaethau i gynyddu eu llesiant eu hunain, yn awr yn cael ei gydnabod yn eang.”

Os ydym ni’n symud heibio’r ‘diffyg gweithredu’, mae gwir gyfle i ddatblygu cymunedau lleol gwydn a grymus mewn trefi drwy Gymru.

Ynghyd â’r CGGC, mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu ymgysylltu â rhanddeiliaid y trefi yng Nghymru i gefnogi’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwn.  Mae’r adroddiad hefyd ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg yma.

O ganlyniad uniongyrchol i adroddiad ‘Cefnogi Lleoedd Lleol a Phobl Leol: Cyfleoedd a Heriau ar gyfer trefi yng Nghymru’, bydd Ymddiriedolaeth Carnegie y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn ymdrin â’r angen hanfodol i wella’r data a’r sail tystiolaeth ynglŷn â threfi Cymru.

Bydd platfform newydd ar gyfer data, ‘Deall Lleoedd yng Nghymru’ (DLlNgh) yn casglu mewnwelediadau sy’n seiliedig ar ddata a fydd yn darparu gwybodaeth ar gyfer penderfyniadau polisi cenedlaethol a lleol a helpu cymunedau i ddeall yn well sut y gallan nhw gyrraedd eu potensial.  Canlyniad  y prosiect fydd offeryn symudol, rhyngweithiol y gall unrhyw un ei ddefnyddio i ddod o hyd i gasgliadau sy’n seiliedig ar ddata ynglŷn â’u tref a sut mae hi’n cymharu â threfi eraill.  Bydd Consortiwn o bartneriaid yng Nghymru yn datblygu’r prosiect, wedi’i gydlynu gan y Sefydliad Materion Cymreig (SMC).  Bydd yr offeryn newydd yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o blatfform llwyddiannus yn yr Alban, Deall Lleoedd yn yr Alban.

 

Share blog
Y newyddion diweddaraf
Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau 2018©