Ailddarganfod y Pŵer mewn Cymunedau

Ailddarganfod y Pŵer mewn Cymunedau

12 Hyd 2017

Esbonia Chris Johnes sut arweiniodd sgwrs ynglŷn â gwydnwch cymunedau at gynhadledd orlawn ynglŷn ag Adeiladu Economi Leol Newydd yng Nghymru.

Deng mis yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn dod i ben ar ôl 16 mlynedd – neu’n hytrach rhaglenni, oherwydd nad oedd yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud ar y diwedd yn ymdebygu rhyw lawer i’r hyn yr oedden nhw ar y dechrau. Roedd siarad ynglŷn â chymunedau yn gwybod orau am arweinyddiaeth leol a datblygu capasiti wedi hen ddiflannu o blaid ymdrin ag anghenion personol, cyflogadwyedd a sgiliau – mentrau a oedd gan fwyaf yn cael eu harwain gan y sector cyhoeddus.

Ychwanegodd Carl Sergeant fod y Llywodraeth yn bwriadu helpu i gefnogi cymunedau ddod yn fwy gwydn, gydag ychydig o fanylion wedi’u hatodi.

Roedd hyn yn cyd-fynd a’r dyddiau cynnar iawn o’n rhaglen Fuddsoddi Leol, ac felly ychydig iawn o dystiolaeth eglur a oedd gennym ynglŷn â beth a oedd wedi cael ei gyflawni er mwyn bwydo unrhyw bolisi gwneud penderfyniad gan y Llywodraeth.  Fodd bynnag, roedd gennym syniad eglur iawn ynglŷn â dyheadau pobl yr ydym ni’n gweithio â nhw mewn 13 o ardaloedd drwy Gymru – ac yn uchel ar y rhestr oedd sefydliadau cymunedol lleol, cryf a allai ddod â gwasanaethau ac adnoddau i’w hardaloedd lleol. 

Gyda’n cydweithwyr yn rhwydwaith y Talwrn, buom yn trafod pa drefniadau a chapasiti y byddai cymunedau eu hangen i ddod yn wydn neu i barhau felly.  Buom yn ystyried cynnal seminar hyd yn oed ar y testun er mwyn ymestyn y ddadl ymhellach. Ond y mwyaf yr oeddem ni’n edrych i mewn i’r pwnc, y mwyaf yr oeddem ni yn ei sylweddoli bod yr agenda yr oeddem ni angen ymdrin â hi yn llawer ehangach nad yr ydym ni’n meddwl fel arfer amdani fel gwaith o gwmpas “cymunedau”.  Roedd yn rhaid iddi gynnwys economïau lleol, cyflwr yr amgylchedd a sut rydym ni’n cefnogi ac yn edrych ar ôl pobl yn ein cymunedau.

Ac arweiniodd hynny ni i ddau gyfeiriad arall: beth allem ni ddysgu o rywle arall a chwilio yn ddyfnach ynglŷn â beth sy’n digwydd drwy Gymru. 

Mae’r sgwrs gyntaf wedi ein dwyn at gynghrair ffrwythlon gyda CLES, sy’n canolbwyntio ar economïau lleol ac mae hyn yn ategu ein gwaith ni gyda chymunedau yn berffaith:  mae datblygu’r digwyddiad ar 18 Hydref gyda nhw wedi bod yn brofiad gwych, gwaith rhwng dau sefydliad sy’n llwyddo i gyfuno persbectifau gwahanol a pharch i’r naill a’r llall.

Fodd bynnag, yr ail set o sgyrsiau sydd wedi bod yn wirioneddol ddadlennol. Ni fydd Gwaith yng Nghymru ynglŷn â sut rydym ni’n adeiladu cymunedau gwydn, ond bydd fwy ynglŷn â sut rydym ni’n adeiladu ar waith gwirioneddol ysbrydoledig y presennol yr ydym ni wedi’i ddarganfod. Ac i raddau, roedd yn rhaid inni ei ddarganfod oherwydd bod cymaint o’r gwaith sy’n digwydd mewn cymunedau unigol yn waith ar wahân i’r darlun cenedlaethol, gydag ychydig ynglŷn â chynrychiolaeth neu rwydweithiau ehangach ac ychydig o gyfleoedd i gyfrannu tuag at bolisi. 

Ond mae llawer yn digwydd, ac mae llawer ohono yn effeithiol ac arloesol.  Creu swyddi, meithrin busnesau, defnyddio’r amgylchedd niwtral yn gynaliadwy, a mentrau gofal sydd wedi’u canoli ar bobl i gyd yn digwydd mewn cymunedau yng Nghymru, ac yn dod â buddion anferth i’w preswylwyr. Mae llawer o hyn yn cael ei arwain gan sefydliadau trydydd sector lleol, ond mewn rhai ardaloedd, mae’r rhaniad rhwng menter gymdeithasol a menter breifat ar raddfa fechan yn dod yn aneglur yn adeiladol, tra mewn achosion eraill, mae gwahanol ffyrdd o weithio gan gyrff cyhoeddus yn rhan hanfodol o’r gymysgedd.

Yr her yn awr yw helpu gwneud y mathau hyn o fentrau yn fwy cyffredin.  Mewn llawer o ardaloedd, nid ydym ni angen creu cymunedau gwydn, rydym ni angen eu hatgyfnerthu. Rydym ni angen cydnabod sut y gallwn ni dorri’r rhwystrau y mae pobl mewn cymunedau yn eu hwynebu, adnabod adnoddau allweddol a helpu pobl i adeiladu’r cysylltiadau a’r perthnasau cywir.

Mae’r hyn a ddechreuodd fel seminar bach i drafod rhai problemau cysyniadol wedi dod yn gynhadledd orlawn erbyn hyn. Bydd yn gynhadledd ar gyfer pobl sy’n dymuno gwneud pethau a dysgu oddi wrth eraill.

Mae’r brwdfrydedd y mae’r syniad wedi’i gynhyrchu wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau.  Mae’r angen a’r potensial ar gyfer cymunedau, sy’n cael eu harwain gan sefydliadau a busnesau lleol, i ysgwyddo swyddogaeth fwy i wneud y mwyaf o’u llesiant eu hunain yn cael ei gydnabod yn eang yn awr. Ein tasg yn awr yw gwneud i hyn ddigwydd hyd yn oed yn ehangach.

Share blog
Y newyddion diweddaraf
Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau 2018©